Ymchwiliad y Pwyllgor Plant y Phobl Ifanc i Bresenoldeb ac Ymddygiad: Tystiolaeth ychwanegol gan UCAC

 

·         Mae NUT Cymru yn dweud bod rhai ysgolion yn gwrthod derbyn disgyblion ag anawsterau ymddygiad hyd yn oed os ydynt yn byw yn y dalgylch. Pa mor gyffredin yw digwyddiad fel hyn?

 

Nid oes gennym dystiolaeth bod hyn yn digwydd. Gwyddom am sefyllfaoedd ble mae Llywodraethwyr yn nodi na ddylid derbyn disgybl heb i’r gefnogaeth/ddarpariaeth angenrheidiol fod ar gael. Mae hyn er lles y disgybl ei hun, y rhai sy’n ei addysgu a disgyblion eraill.

 

·         A yw ysgolion wedi rhoi rhagor o bwyslais ar bresenoldeb ers i hynny gael ei gynnwys yn y data bandio ysgolion?

 

Fel y nodwyd yn y dystiolaeth ysgrifenedig, mae yna obsesiwn bellach ar ddata. Mae ysgolion wedi canfod bod y newid lleiaf un yn eu canrannau presenoldeb yn gallu eu symud o un band i fand arall ac y mae hyn yn hollol rhwystredig a hwythau wedi ymdrechu i ddelio â’r mater, ond canfod ar ddiwedd y dydd bod rhai sefyllfaoedd y tu hwnt i’w rheolaeth.

 

·         Ar hyn o bryd, mae Llywodraeth Cymru yn ymgynghori ynglŷn â chynigion ar gyfer cyflwyno hysbysiadau cosb benodedig er mwyn mynd i'r afael ag absenoldeb cyson o’r ysgol heb ganiatâd. Beth yw eich barn ynglŷn â hyn?

 

Mae UCAC wedi ymateb i’r ymgynghoriad yn ffurfiol. Rydym o’r farn mai cyfrifoldeb rhieni yw cael eu plant i’r ysgol a bod angen iddynt fod yn atebol am y cyfrifoldeb hwnnw. Fodd bynnag rydym yn rhagweld y byddai cynllun o’r fath yn rhoi mwy o waith a chyfrifoldebau ar ysgwyddau penaethiaid ac mai teuluoedd sydd mewn trafferthion ariannol yn barod fyddai’n debygol o dderbyn y fath gosbau. Ni fyddai felly yn cyflawni gwelliant arwyddocaol.

 

·         Dywed Aelodau NAHT Cymru/ASCL fod y grant amddifadedd disgyblion a'r grant effeithiolrwydd ysgolion wedi bod yn arbennig o bwysig o ran cyfrannu at wella'r cyfraddau presenoldeb. A ddylid rhoi rhagor o gyfarwyddyd ynglŷn â sut i wario grantiau o'r fath er mwyn gwella presenoldeb ac ymddygiad?

 

Mae’r Undeb yn croesawu unrhyw adnoddau mae ysgol yn gallu eu derbyn i hyrwyddo gwell presenoldeb neu well ymddygiad cyn belled â bod hynny ddim yn arwain at waith gweinyddol a biwrocrataidd swmpus.  Ambell waith mae’r gofynion gweinyddol sy’n cyd-fynd â grantiau at ddibenion penodol yn gallu llesteirio ymdrechion i wneud y defnydd gorau o’r arian; rhaid sicrhau bod y gofynion hyn yn gymesur â’r symiau o arian dan sylw. Pryderwn ynghylch cynaliadwyedd tymor hir gwasanaethau neu gefnogaeth a ddarperir drwy grantiau; y perygl yw bod yr effaith yn un byrdymor a chamarweiniol.

 

·         A yw'r oedi wrth roi argymhellion Adolygiad Cenedlaethol o Ymddygiad a Phresenoldeb 2008 ar waith wedi effeithio ar waith eich aelodau.

 

Ydy. Ar ben hyn mae’r rhagdybiaeth bod yna arweiniad/gofynion/ canllawiau newydd neu ddiwygiedig ‘ar eu ffordd’ wedi llyffetheirio datblygiadau ar lefel sirol. Mae angen pennu amserlen dynn ar gyfer unrhyw newidiadau sydd i’w cyflwyno a sicrhau bod pawb yn ymwybodol ohonynt a’u goblygiadau.

 

·         Beth y mae angen i Lywodraeth Cymru fwrw ymlaen ag ef fel blaenoriaeth er mwyn gwella presenoldeb ac ymddygiad disgyblion?

 

Fel a nodwyd yn y dystiolaeth ysgrifenedig:

i)      y prif flaenoriaeth o ran gwella presenoldeb ddylai fod sicrhau argaeledd gwasanaeth Swyddogion Lles Addysg digonol led–led Cymru. Mae ein aelodau yn tystio bod cefnogaeth o’r fath yn fodd o warantu ymyrraeth gynnar sy’n sicrhau nad yw patrwm o absenoldebau anawdurdodedig yn cael ei sefydlu. Mae hefyd yn hybu cydweithio rhwng asiantaethau ac yn sicrhau nad yw staff addysgu yn treulio gormod o’u hamser ar faterion sydd heb fod yn uniongyrchol ynghylch y dysgu a’r addysgu.

ii)   y prif flaenoriaeth o ran yr ymddygiad yw gwneud datganiad diamwys na ddioddefir ymddygiad treisiol mewn ysgolion. Dylid ategu hyn efo hyfforddiant cynhwysfawr i’r staff mewn delio â’r nifer cynyddol o ddisgyblion sy’n cyrraedd ein hysgolion ac yn taro allan ar staff a chyd-ddisgyblion gan amharu’n ddirfawr ar ddiogelwch ac addysg yn yr ysgol.

·         Yn eich barn chi, a oes cysylltiad rhwng y bwyd sy’n cael ei fwyta/na chaiff ei fwyta ac ymddygiad, a beth y gall ysgolion ei wneud am hyn?

 

Mae digon o ymchwil ar gael sy’n ategu bod cysylltiad rhwng diet ac ymddygiad. Mae ysgolion yn gwneud llawer yn barod i hybu ymwybyddiaeth o bwysigrwydd diet iach, ond y cartref ac nid yr ysgol sy’n penderfynu beth yw natur y rhan fwyaf o’r bwyd mae disgybl yn fwyta. Mae gan ysgolion rôl mewn addysgu a hybu arfer dda (ee dim ond caniatáu byrbrydau a diodydd  iach), ond mae gan gymdeithas ehangach yr un cyfrifoldeb hefyd.

 

Rolant Wynne, UCAC